Supercomputing Wales hub services unavailable, 17-20 July 2020

Due to essential power supply maintenance affecting the entire Cardiff Redwood building during the weekend of 18-19 July, the Supercomputing Wales hub at Cardiff (‘Hawk’) and associated services will be unavailable from 3pm on Friday, 17 July until approximately 12pm, on Monday 20 July.

The work taking place involves high-voltage systems and, as such, necessitates a complete power down of the data centre where a number of the supercomputing services are hosted. The following systems will be unavailable throughout this building outage:

  • ‘Hawk’ compute and login systems, including local file system storage
  • ‘Sparrow’ data analytics system
  • Cardiff-based research data storage systems
  • ‘MySCW’ web portal

Before the outage, any submitted compute jobs on ‘Hawk’ will not start if their maximum run time would take them beyond 3pm on Friday, and so there will typically be available capacity in the few days leading to the outage for shorter jobs.

It is anticipated that services will be resumed on Monday, 20 July as soon as possible, likely to be by midday but subject to developments and system compliance testing on the day. A further update will be provided on Monday, 20 July once we have confirmation of the successful completion of the essential power works from Cardiff University Estates and Western Power.

We apologise for any inconvenience caused by this essential estates electrical maintenance work.

The Supercomputing Wales Team

Ni fydd cyfleusterau Uwchgyfrifiadura Cymru ar gael, 17-20 Gorffennaf 2020

Ni fydd cyfleusterau Uwchgyfrifiadura Cymru yng Nghaerdydd (‘Hawk’) a gwasanaethau cysylltiedig ar gael o 3pm ddydd Gwener, 17 Gorffennaf tan tua hanner dydd, ddydd Llun 20 Gorffennaf oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y cyflenwad pŵer. Bydd hyn yn effeithio ar holl Adeilad Redwood Caerdydd yn ei gyfanrwydd yn ystod penwythnos 18-19 Gorffennaf.

Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yn cynnwys systemau foltedd uchel. Felly, mae angen diffodd y pŵer yn llwyr o’r ganolfan ddata lle mae nifer o’r gwasanaethau uwchgyfrifiadura yn cael eu cynnal. Ni fydd y systemau canlynol ar gael trwy gydol cyfnod y toriad hwn:

  • Systemau cyfrifiannu a mewngofnodi ‘Hawk’, gan gynnwys system storio ffeiliau lleol
  • System ddadansoddi data ‘Sparrow’
  • Systemau storio data ymchwil Caerdydd
  • Porth gwe ‘Fy Uwchgyfrifiadura Cymru’ (‘MySCW’)

Cyn y toriad, ni fydd unrhyw dasgau cyfrifiannu a gyflwynir ar ‘Hawk’ yn cychwyn os oes posibilrwydd y gallen nhw fod ar waith o hyd y tu hwnt i 3pm ddydd Gwener. Felly, fel rheol bydd cyfle i wneud tasgau byrrach yn ystod y diwrnodau cyn y gwaith cynnal a chadw.

Rhagwelir y bydd gwasanaethau’n cael eu hailddechrau ddydd Llun, 20 Gorffennaf tua hanner dydd neu cyn gynted â phosibl, ond yn amodol ar ddatblygiadau a phrofion cydymffurfio system ar y diwrnod. Bydd diweddariad pellach yn cael ei roi ddydd Llun, 20 Gorffennaf unwaith y bydd gennym gadarnhad bod y gwaith pŵer hanfodol wedi’i gwblhau’n llwyddiannus o Ystadau Prifysgol Caerdydd a Western Power.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan y gwaith cynnal a chadw trydanol hanfodol hwn ar gyfer ystadau.

Tîm Uwchgyfrifiadura Cymru